Mae diogelwch ar y we yn bwysig ar gyfer heddiw,

yfory a'r dyfodol.

Mae'r we yn hwyl ac yn rhoi llawer o adloniant i ni. Mae'n bosib cadw mewn cystylltiad gyda ffrindiau. Gallwn hefyd chwilio am wybodaeth ar y we. Os defnyddiwn y we yn gywir, mae'r rhyngrwyd yn ddiogel, ond mae ganddo ei beryglon, felly mae'n bwysig dysgu sut i aros yn ddiogel ar-lein er mwyn sicrhau syrffio diogel.

Bydd rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn ddilys, ond mae hi mor hawdd cuddio pwy ydych chi go iawn, yn wahanol i weld rhywun wyneb i wyneb. Mae'r we yn gallu bod yn rhywle ble mae pobl yn dweud bod nhw yn rhywun arall er mwyn eich twyllo chi.

Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y dyfodol yn edrych fel yn y byd T.G.Ch. Ond rydyn ni yn gwybod bydd plant yn dod yn fwy craff wrth ddefnyddio'r cyfrifiadur. Mae

e-ddiogelwch yn bwysig nid yn unig ar y we ond wrth ddefnyddio e-byst, ffôn symudol a dyfeisiadau digidol eraill.

Mae angen amddiffyn plant rhag unrhyw niwed posibl. Mae diogelwch ar y rhyngrwyd a gwybod sut i helpu amddiffyn plant a phobl ifanc ar lein er mwyn bod yn ddiogel ac yn gyfrifol wrth ddefnyddio technoleg yn hanfodol i blant.

Mae ein gwefan ni yn dangos sut mae cadw'n ddiogel yn y dyfodol. Rydym wedi creu tudalennau sy'n cynnwys fideos a chwisiau. Gobeithio bydd y tudalennau hyn yn helpu plant i gadw yn ddiogel yn yr ysgol a'r cartref yn y dyfodol.