Cwilt Nel
Our Queen is Dead
1901
Our King is reign
Un o'r trysorau mwyaf sydd gan Eiry Palfrey yw y cwilt a winiodd Nel ar y llong yn nôl i Gymru.
Ar y ffordd nôl i Gymru a hwylio tuag at Madera, aethant fewn i harbwr Funchal, ni ganodd y capten corn y llong a hwyliodd y faner ar hanner mast. Roedd yr harbwr yn dawel, nid oedd neb yn rhuthro o gwmpas, ac roedd y cychod i gyd au baneri ar hanner mast. Daeth ynewyddion trist bod y Frenhines Victoria, wedi marw.
Un arall o drysorau Nel yw'r cwilt a wnaeth ar ffwrdd y llong ar ei ffordd ynol i Gymru. Pan oedd Nel yn wniadwraig yn Buenos Aires, casglodd sbarion o ddeunyddiau. Nid oedd byth yn gwastraffu na thaflu dim os byddai yn meddwl y gallai un diwrnod fod yn ddefnyddiol! Gyda’r darnau hyn o ddefnyddiau creodd y cwilt. Nid oes neb yn gwybod nodwyd hyn yn saesneg gan nad oedd Nel yn medru siarad Saesneg.
Penderfynodd Nel winio y geiriau: - Our Queen is dead Jan 21 Our King is reign 1901’ ar sgwar yng nghanol y cwilt.
Mae'r cwilt yn parhau i fod yn werthfawr i'r teulu hyd heddiw.