Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i ymchwilio i hanes un gwraig arbennig, Ellen Davies, sydd yn fwy adnabyddus fel Nel Fach y Bwcs.

Diolch i'r holl ymwelwyr sydd wedi dod i fewn i'r ysgol a'r rhai sydd wedi cwrdd â ni ar ymweliadau addysgol. Rydym yn hynod o ddiolchgar i dderbyn yr holl wybodaeth gan bawb ar gyfer creu ein gwefan Croesi'r Tonnau - gwefan gan blant i blant. Heb eu cyfraniad, cefnogaeth a'u gwybodaeth, ni fyddai'r wefan hon wedi bod yn bosibl.

Cydnabyddiaeth

Diolch am ymweld â'n gwefan. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen ein prosiect a'n gwaith ar gyfer cystadleuaeth Menter y Dreftadaeth Gymreig 2016 - Croesi'r Tonnau, Nel Fach y Bwcs.

Hoffem ddiolch i staff yr ysgol am ein tywys ar daith i ddysgu am Nel Fach y Bwcs, ei bywyd ym Mhatagonia a nôl yn Drefach Felindre, ac wrth gwrs, diolch yn fawr iddynt am fynd â ni i Lerpwl ac Iwerddon.

Hoffem ddiolch i deulu Nel am ganiatau i ni ddefnyddio lluniau'r teulu ar gyfer ein gwefan. Hoffem hefyd ddiolch i Mrs Eiry Palfrey, wyres Nel a'i diweddar fam, Marged Jones, a ysgrifennodd lyfr diddorol am Nel Fach y Bwcs, 'O Drelew i Drefach'.

'O Drelew i Drefach' - Marged Jones

Lerpwl

Iwerddon