Llif Enfawr 1899

Am y tro gyntaf ers i'w mham farw roedd yn teimlo'n hapus. Roedd yr 1890au yn amser da ym Mhatagonia. Fe wnaeth poblogaeth Cymreig gynyddu i tua 3000. Roedd crefydd yn ffynnu a digon o gymdeithasu i'r ifanc. Cafodd Nel sawl cynnig i briodi ond byddai hynny'n golygu gadael ei thad ar ôl iddi addo edrych ar ei hôl.

Yn ystod Gaeaf 1899 roedd yna lif enfawr. Fe lawiodd am fisoedd ac roedd rhaid i bawb bacio popeth a dianc i'r bryniau. Gwisgodd Nel ei phoncho a phaciodd lestri gorau ei mham, Y Beibl Mawr a'i pheiriant gwnio. Gyrodd y dynion y gwartheg i'r tir uchaf gan obeithio y byddent yn eu gweld nhw eto. Roedd y cwm fel llyn ac roedd yr anifeiliaid yn arnofio allan i'r môr. Collwyd llawer o dai ac adeiladau yn ystod y llif, ond yn ffodus, roedd Llain Las yn dal i sefyll. Cafodd popeth tu fewn eu dinistrio ac roedd yn llawn mwd. Roedd bywyd yn galed. Collodd pawb bopeth ac roedd rhaid iddyn nhw ddechrau eto. Roedd pawb yn y cwm yn helpu ei gilydd trwy rannu yr ychydig oedd ganddynt ar ôl. Teimlai Nel mor dlawd â'r amser y cyrhaeddon nhw Patagonia dros chwarter canrif yn nôl!

Ar ôl y llifogydd, penderfynodd tad Nel ei bod yn rhy hen i ddechrau eto. Roedd yn agosau i fod yn 60 mlwydd oed a dewisiodd symud nôl i Gymru. Unwaith eto, roedd yn rhaid i Nel adael Patagonia a mynd nôl i Gymru i edrych ar ôl ei thad. Tro hwn roedd hi'n 28 mlwydd oed ac unwaith eto yn drist i adael ei chartref ym Mhatagonia. Cyn iddi adael, rhoddodd Nel flodau ar bedd ei mham. Teimlodd yn sicr y byddai ei mham yn deall pam ei bod hi'n symud, tro hwn yn bendant, nôl i Gymru.