Yr Ysgol
Roedd ysgol Nel 15 milltir i ffwrdd yn Dref Rawson. Byddai Nel a'i brodyr yn teithio ar gefn ceffyl i'r ysgol.
Cafodd yr ysgol ei chreu allan o sgerbwd cwch a oedd wedi cael ei gasglu o'r traeth.
Ysgol Y Gaiman
Mae'r cylch yn dangos Nel
Doedd yna ddim beiro, papur na llyfrau yn yr ysgol, felly oedd rhaid i'r disgyblion ddod â Beibl, slaten a cherrig er mwyn ysgrifennu.
Un tro, roedd yna dros 50 o blant rhwng 6 a 12 mlwydd oed a dim ond un athro! Byddai Nel yn dysgu hanes o'r Beibl a chanu emynau. Ei hoff emyn oedd Calon Lan.
Am bod yr ysgol mor bell o'i chartref, yn ystod misoedd y gaeaf, byddai Nel yn aros adref. Yn ystod yr amseroedd yma, am fod ei ffrindiau yn byw mor bell i ffwrdd, roedd Nel yn cadw'n brysur wrth helpu ei mham yn y ty wrth olchi lloriau a mynd i nôl dwr.