Syr Harri Morgan

Ganwyd Harri Morgan yn y flwyddyn 1635 mewn pentref o'r enw Pencarn ac fe ddaeth yn un o'r mor-ladron enwoca'r byd o Gymru. Pan yn 17 mlwydd oed fe ddaeth yn forwr yn y flwyddyn 1652 ac yna hwyliodd Harri Morgan i'r Caribi yn 1658.

Cafodd ei ddal a bu'n gweithio fel caethwas yn planhigfa siwgr. Serch hynny roedd Harri Morgan yn mynd i ddianc a fe wnaeth e. Ar ôl hynny, ymunodd a chriw o for-ladron yn Jamaica. Gyda'r criw fe wnaeth ymosod ar llongau Sbaen a dwyn ei arian a trysor!! Popeth oedd ganddyn nhw. Roedd Harri Morgan fel wiwer yn casglu cnau.

Wedyn, pan oedd ganddo digon o arian, prynodd Harri Morgan llong ei hun gyda chriw a fe ddaeth Harri Morgan yn gapten ar y llong. Ond, pan roedd Harri Morgan yn arwain dros 500 o for-ladron i ymosod ar ynys Porto Bello roedd ganddo coesau fel jeli.Bu'r brwydr yn mynd ymlaen am dridiau.

Ar ôl tri diwrnod hir o ymladd ffyrnig, fe enillodd Harri Morgan y frwydr. Wedyn, aeth Harri Morgan nol i Brydain Fawr a fe cafodd ei wneud yn farchog gan y Frenhines a fe ddaeth yn Syr Harri Morgan. Ar ôl popeth, aeth nol i'r Caribi i fyw a bu farw ar y 25ed o Awst 1688 yn 53 oed. Cafodd ei gladdu yn Jamaica.

Cofiwn Syr Harri Morgan am fod yn un or mor-ladron enwoca'r byd a oedd yn dod o Gymru, ac am ymosod ar y Sbaenwyr a dwyn ei trysor.

gan Meriel