Diwrnod Gwisgo Pinc

Trefnodd y Cyngor Ysgol ‘Diwrnod Gwisgo Pinc’ er mwyn codi arian tuag at ymchwil Cancr y Fron. Cynhaliwyd gwasanaeth boreol yr ysgol, dan ofal Mrs Carys Davies, athrawes dosbarth 4 a chafwyd hanes yr Elusen Cancr ganddi. Codwyd y swm anrhydeddus o £200.31.