Drefach Felindre
Gan Lois Vobe
Drefach Felindre
Gan Lois Vobe
Y Banc a'r Swyddfa Bost
Un adeilad oedd y banc a'r swyddfa bost. Roedd y banc a'r swyddfa ar agor tri diwrnod yr wythnos, hefyd roedd yna tair banc. Heddiw mae Mr a Mrs Lote yn byw yna.
Y Groser
Nol yn 1900au, y groser oedd y siop J'adore. Roedd y groser yn gwerthu popeth o bara i laeth.
Roedd siop yma, sef siop hearnwerthwr a oedd yn gwneud haearn i werthu yn lleol. Heddiw siop Premier ydyw sydd ar agor bob diwrnod o'r wythnos, o 7 y bore tan 10 o'r gloch y nos.
Siop Haearnwerthwr
Camwy
Yn y llun uwchben, gwelwch y tŷ cyntaf symudodd Nel, ei thad John, Hannah ei chwaer yng nghyfraith a'i nai Joni bach, mewn iddi ar ol dychwelyd i Gymru. Enw'r tŷ yw 'Camwy' ac heddiw mae'r tŷ dal yn sefyll. Mae fy nghyfnither yn byw yno gyda'i theulu ac mae yna plac i gofio'r hanes. Mae'r tŷ wedi enwi ar ôl afon mewn dyffryn mas ym Mhatagonia bell!
Y Cigydd
Cigydd oedd yr adeilad yma. Rydych yn gallu gweld taw siop oedd e oherwydd mae'r ffenestri yn fawr lawr star fel eich bod yn gallu gweld y cig.
Gorsaf Petrol
Roedd gorsaf petrol tu allan y tŷ yma blynyddoedd yn ol. Fel rydych yn gallu gweld mae llawer o le parcio tu allan i'r tŷ heddiw. Gallwch ddychmygu bod gorsaf petrol wedi bod yma ond heddiw lle parcio yw hi i'r bobl sy'n byw yn y ty.
Y Becws
Y Becws oedd yr adeilad yma. Roedd torth o fara yn cael ei bobi pob dydd.
Ystafell Ddarllen a Meddygfa
Oherwydd roedd prisiau llyfrau a phapur newydd mor uchel roedd yna ystafell ddarllen yn y pentref, ble roeddech yn gallu darllen llyfr neu papur newydd am ddim. Yr unig problem oedd nid eich llyfr chi oedd e, roedd rhaid darllen yn yr ystafell ddarllen. Hefyd roedd meddygfa yn yr adeilad pitw yma.
Bedd Nel a Tom
Dyma bedd Ellen a Thomas Jones. Claddwyd Ellen a Tom yn fynwent Bethel, Drefach Felindre. Bu farw Tom yn 1965 a bu farw Nel yn 1965 ar ganmlwyddiant y wladfa Gymreig.
Cartref Nel
Ar ol cael llond bol o'i thad a'i wraig newydd, symudodd Nel i byw a'i ffrind yn Cwmpengraig am ychydig. Yna cwrddodd a Thomas Jones. Priododd Nel a Thomas Jones a symud i'r cymoedd i weithio yn y diwydiant glo. Mewn amser, symudodd Nel a Tom i Landysul ac agor siop o'r enw Emporium. Yna ar ôl i'r ddau ymddeol symudon nhw i Graigwen, Drefelin.
Y Felin
Melin blawd oedd y melin yma. Yn y melin roedden nhw'n malu hadau a troi y hadau mewn i blawd.
Capel Clos y Graig
Dyma Capel Clos y Graig, pob dydd Sul roedd Nel yn cerdded o Graigwen i'r capel tair gwaith, yn y bore roeddent yn cael cwrdd, yna nôl adref i cael cinio yna nôl am ysgol Sul wedyn nol adref yna nôl am cwrdd unwaith eto yn y nos. Roedd Nel wastad yn y cornel (y llun a border coch) pam oedd hi'n mynychu'r capel.
Ystafell Te a Choffi
Fel rydych yn gweld yn y teitl caffi oedd yr adeilad yma.
Siop
Eto rydych yn gallu gweld taw siop oedd yr adeilad yma oherwydd ei fod gyda ffenestri mawr i ceisio dennu cwsmeriaid.