Ganed Mary Jones ar 16 Rhagfyr 1734 ym Mhen-y-Bryniau Mawr i Jacob a Mary Jones oedd wedi priodi ar 25 Mai 1783 yn Llanfihangel-y-Pennant.

Yng nghofnod eu priodas yn nghofrestr y plwyf, disgrifir Jacob fel 'peasant', hynny yw labrwr amaeth. Ni allai Jacob na Mary ysgrifennu ond roeddynt wedi rhoi croes ar y gofrestr.

Yn fuan wedi i Mary gael ei geni, symudodd y teulu i fwthyn o'r enw Tŷ’n-y-Ddôl yn nhrefgordd Tyn-y-fach, tua milltir a hanner o bentref Llanfihangel-y-Pennant. Roedd y bwthyn gerllaw ffrwd oedd yn darparu hynny o ddŵr oedd y teulu ei angen. Roedd wedi ei adeiladu o garreg leol ac roedd simnai fawr ar un pen iddo. Y tu hwnt i'r wal lle roedd y tân roedd ystafell oedd bronmor fawr â'r bwthyn ac yma roedd yr anifeiliaid yn byw yn ystod y gaeaf.

Roedd Jacob, ei thad, yn dioddef o asthma a bu farw ar 16 Ebrill 1789 yn 30 oed. Dim ond 4 a phedwar mis oed oedd Mary. Fe wnaeth hi a'i mam ddal i fyw yn y bwthyn tan yn gynnar yn y 1800au pan symudasant i Cwrt, trefgordd gerllaw ble mae pentref Abergynolwyn heddiw.

Roedd mam Mary yn wraig grefyddol iawn, ac roedd hi a Mary bob amser yn y Capel. Roeddynt yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oedd wedi cychwyn yng Nghymru yn 1735-6, dan ddylanwad y pregethwyr teithiol oedd yn mynychu'r ardal. Roedd y Capel Methodistiaid Calfinaidd agosaf i Cwrt, ddwy filltir i ffwrdd a bob dydd Sul byddai Mary a'i mam yn cerdded.

Ar 27 Chwefror 1813, fe briododd Mary â Thomas Jones yn Eglwys y Santes Fair, Tal-y-Llyn rywbryd yn ystod hanner cyntaf 1820, fesymudodd y teulu i Fryncrug.

Bu farw Thomas ar 21 Gorffennaf 1849. Mae ei dystysgrif marwolaeth yn rhoi achos y farwolaeth fel y ddarfodedigaeth (tuberculosis). Bu farw Mary ar 29 Rhagfyr 4 ac mae wedi ei chladdu ym mynwent Capel Bethlehem ym Mryncrug.

Ty'n-Y-Ddol

Bwythyn yn Bryn Crug

Cliciwch ar y dogfennau i'w gweld yn ogosach