Roedd yn byw mewn bwthyn bach, truenus, un o rhai tlotaf y bum i ynddo erioed gyda llawr pridd, bwrdd bach a channwyll frwyn arno a dwy neu dair stôl deirdroed. Roedd yn gwisgo hen wisg Gymreig, pais a gwn nos, a ffedog wedi'i wneud o winsi a chap gwyn gyda phlet wrth ochraeu cheg. I fynd i'r Capel byddai’n gwisgo het jim-cro(het ffelt feddal), a chlogyn glas o frethyn cartref gyda chwfl arni ac roedd yn cario ffon. Yn y gaeaf byddai'n cario llusern gyda ffenestri corn, nid i oleuo ei ffordd gan nad oedd yn gweld, ond er mwyn i eraill ei gweld hi.

Bu Mary farw ar 29 Rhagfyr 1864 ac mae wedi ei chladdu ym mynwent Capel Bethesda ym Mryncrug.

Mae ei thystysgrif marwolaeth yn rhoi achos ei marwolaeth yn syml fel 'henaint'

Cafodd Mary fywyd hir, gan fynd yn ddall yn raddol. Roedd hi bron yn 8O oed pan fuodd farw. Roedd yn fach, yn denau ac yn edrych yn brudd ac drist ei bod wedi mynd yn ddall ers rhai blynyddoedd.

Dyma fwthyn bach Mary Jones yn Bryncrug.

Dyma ni yn edrych a'r fedd Mary Jones.

Dyma fedd Mary Jones