Llong Newyn Dunbrody

Yn 1845, blwyddyn lansiwyd y Dunbrody, daeth newyn tato i Iwerddon. Achoswyd y newyn gan "y malltod", ffwngws tato. Dinistriodd y tatws yn gyflym. Roedd llawer o drigolion Iwerddon yn dlawd iawn a'i hunig fwyd oedd tato.

Pan ddaeth y newyn tato, roedd miloedd o bobl mewn perygl o newyn, ac i wneud pethau waeth, daeth y malltod tato fwy nag unwaith a lladd y cynhaeaf am sawl blwyddyn.

O ganlyniad i'r malltod ar y tatws, roeddent yn mynd yn fach, slwtsh ac yn amhosib i'w bwyta. Credir fod y clefyd yn tarddu yng ngogledd America a throsglwyddwyd wrth i'r llong deithio i Ewrop yn 1845. Niweidiodd gnydau y tatws mewn sawl gwlad ac achosi caledi eang. Y tatws oedd yr unig gnwd yr effeithwyd arnynt, ond gwnaeth Iwerddon barhau i dyfu yd, gwenith, haidd a chig eidion.

Buom yn ymweld รข Iwerddon i weld llong hwylio yn debyg mewn maint i'r Mimosa sef y 'Dunbrody'. Er fod y llong yma yn long newyn, cafodd ei haddasu i long i gario pobl i America amser y newyn mawr.

Mae'r llong newyn Dunbrody yn New Ross, Co.Wexford. Cwch sydd wedi ei creu fel yr un gwreiddiol o'r 1840au yw hon. Roedd yr un wreiddiol wedi cael ei hadeiladu yn 1845 yn Quebec a'i chynllunio fel llong cargo. Cafodd ei chomisiynu gan William Graves & fab, teulu masnachwyr llongau o New Ross.