Defnyddiwch llysenw

Pan fyddwch yn mewngofnodi i ystafell sgwrsio, dylech bob amser wneud yn siwr eich bod yn defnyddio llysenw, rhywbeth na ellir yn hawdd ei ddefnyddio i'ch adnabod chi. e.e. enw eich ci, mam neu dad.

Peidiwch ag anfon eich llun i unrhyw un. Does dim ots faint y maent yn gofyn neu'n addo i anfon un yn nôl.

Rhaid dweud wrth eich Rhieni

Os ydych yn bwriadu defnyddio ystafelloedd sgwrsio dywedwch wrth eich rhieni. Mae eich rhieni eisiau eich cadw chi'n ddiogel ac angen gwybod pa ystafelloedd rydych yn eu defnyddio.

Peidiwch byth â rhoi manylion personol

Peidiwch â dweud eich enw go iawn, dim hyd eich enw cyntaf.

Peidiwch â dweud wrth neb pa mor hen ydych chi.

Peidiwch â dweud wrth unrhyw un am fanylion ble rydych yn byw, ni ddylech fod yn dweud eich cyfeiriad na hyd yn oed pa dref ydych chi'n byw wrth bobl. Peidiwch â rhoi cyfle iddynt ddweud eu bod yn byw yn agos atoch chi ac i geisio ennill eich ymddiried ynddyn nhw.

Peidiwch â dweud wrth neb pa ysgol yr ydych yn mynd iddi. 

Peidiwch â dweud wrth neb eich rhif ffôn.

Peidiwch â dweud wrth neb eich cyfeiriad

e-bost. Cadwch e'n gyfrinach.

Peidiwch â

mynd i gyfarfod unrhyw ddieithryn y byddwch yn cwrdd

ar-lein

Aros yn ddiogel yn ystafell sgwrsio

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn pob un o'r rheolau hyn a dylech fod yn gallu mwynhau defnyddio'r ystafelloedd sgwrsio a chadw'n ddiogel ynddynt.