Roedd Nel yn gweithio fel gwniadwraig ond un diwrnod pan oedd Nel yn gweithio bant yn Tre Rawson cafodd Nel neges un noson yn gofyn iddi hi dychwelyd adref. Methodd Nel fynd adref y noson honno ond y diwrnod canlynol roedd Nel wedi menthyg ceffyl a cychwyn ei ffordd adre i Lain Las. Erbyn iddi gyrraedd, roedd ei llysfam wedi marw ac wedi ei chladdu. Mae'n arferol i gladdu y diwrnod canlynol ym Mhatagonia oherwydd y gwres.

Roedd Nel wedi symud nôl eto i Llain Las i edrych ar ôl ei thad. Roedd hi eto yn rhedeg y tŷ ond roedd yn dal i weithio yn ystod yr wythnos ac yn gweithio yn y tŷ yn ystod y penwythnos.

Roedd Nel yn gweithio yn Buenos Aires fel gwniadwraig. Nid oedd yr amodau yn dda. Roedd deg merch yn rhannu ystafell wely tywyll a bach uwchben y lle gweithio a dim ond tri gwely i rannu rhwng deg merch.

Ni chafodd y merched eu talu am eu gwaith ond cawsant lety a'i bwyd am ddim. I frecwast byddent yn cael bara a choffi. Cinio oedd uwd a thatws ac ychydig o gig ar gyfer te. Roedd yn rhaid iddynt weithio saith diwrnod yr wythnos, ond roedd Nel yn gwrthod gweithio ar Ddydd Sul, a bu bron a cholli ei gwaith.

Gwaith yn Buenos Aires

Cytunodd Nel i weithio dwy awr ychwanegol bob nos i wneud lan ar gyfer yr Dydd Sul. Ei threfn ddyddiol oedd deffro am 6yb i ddechrau gweithio am 6:30. Hanner awr i ginio a gweithio tan 6yh ond i Nel tan 8yh. Yn aml iawn byddai Nel yn gweithio tan 10y.h. yn gwneud botymau rhwyllau ac yn cael ei thalu ar gyfer y ddwy awr ychwanegol. Er byddai William yn anfon arian o adref, byddai’r arian hyn yn helpu talu am ei pheiriant gwnïo ei hun. Roedd yn amser blinedig a ddiflas iawn, ond cyn bo hir byddai’r blwyddyn anhapus yma wedi dod i ben pan fyddai'n symud nôl i Llain Las.

Llain Las