Galwyd Ellen Davies yn Nel Fach y Bwcs, gan thad yn cael ei alw'n John Davies y Bwcs, am fod ganddo siop lyfrau yn gwerthu Beiblau, Testamentau a llyfrau emynau.
Ymfudodd pan oedd tua pum mlwydd oed, gyda'i rhieni John a Hannah Davies a'i dau brawd William a John, i Batagonia yn 1875.
Ellen Davies
John Davies
Y Pwll Glo
Nid oedd unrhyw ffordd y gallai'r teulu Davies wybod am y caledi ddioddefodd y Cymry cyntaf deng mlynedd ynghynt, a hefyd sut yr roeddynt yn byw deng mlynedd yn ddiweddarach.
Roedd Michael D Jones yn dal yn annog y Cymry i ymfudo i’r wlad lle gallent gael gwell dyfodol a byw yn hapus mewn cymuned hollol Gymreig. Dyna beth oedd mewnfudwyr yn y dyfodol yn dal i gredu!
Michael D Jones
Pam Ymfudodd Nel Fach Y Bwcs a'i Theulu?
Yn wreiddiol, roedd John Davies o
Rhos, Llangeler. Ond symudodd y
teulu i fyw i'r Rhondda.
Agorodd siop lyfrau yn gwerthu
Beiblau, Testamentau, a llyfrau
emynau oherwydd roedd yn casau
gweithio dan ddaear yn y tywyllwch
yng nghanol y llygod mawr.
Roedd John eisiau gwell dyfodol i'w feibion. Nid oedd eisiau iddynt weithio yn y pyllau glo.
Gyda diwydiannau Cymru yn cynyddu, roedd cymunedau a bywyd gwledig yn diflannu.
Roedd John Davies yn gwybod bod yna anheddiad Cymraeg ym Mhatagonia a phenderfynodd ymfudo ar ôl clywed y byddai bywyd gwell iddynt yno.