Beth oedd gwaith Nel nôl yng Nghymru?

Roedd Nel yn anhapus wedi dychwelyd i Gymru am ei bod yn cyfri ei hun yn Archentwraig. Roedd hiraeth arni am Y Wladfa. Roedd wedi colli mam a llys fam yn y Gaiman, roedd ei ffrind gorau, Beca, wedi ei lladd trwy ddamwain, roedd ei thri brawd wedi ymfudo i wledydd arall, ac roedd William ei brawd wedi ei ladd yn Rhyfel y Boer.

Roedd Nel yn ffeindio byw yn Nrefach yng nghanol pobl fusneslyd yn wahanol i'r bywyd roedd hi yn gyfarwydd. Roedd mor wahanol i fyw mewn pentref o'i gymharu â byw yn ehangder y paith yn y Gaiman. Roedd ei thad wedi ymgartrefu ac yn hapus yng nghwmni ei ffrindiau. Daeth yn ddyn pwysig yn y capel a daeth ei siop lyfrau yn fan cyfarfod lle y byddai rhai o drigolion y pentref yn trafod pwyntiau llosg y dydd.

Roedd yn rhaid i Nel chwilio am waith. Nid oedd galw mawr am wniadwraig gan fod y siopau yng Nghastell Newydd Emlyn yn hawdd eu cyrraedd ar y trên. Yr unig waith i'w gael yn Nhrefach oedd mewn ffatrioedd gwlân. Roedd digon o felinau gwlân yn yr ardal a digon o waith. Ond pan aeth Nel yno i weithio, dim ond tri diwrnod buodd hi'n gweithio gan ei bod yn casau'r lle am ei fod swnllyd iawn gyda swn peiriannau a phobl yn gweiddi dros y pob man.

Teimlai Nel ei bod yn bryd iddi cael gwaith i ffwrdd o Drefach.

Gwelodd Nel hysbyseb am waith mewn gwesty yn Aberdyfi yn papur newydd wythnosol Cymraeg 'Baner ac Amserau Cymru', papur oedd yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru ac yn ardal Lerpwl.

Symudodd i Aberdyfi a gweithiodd o 8yb - 6yh chwe diwrnod yr wythnos am 7/6. Ond roedd hiraeth arni am Drefach a phenderfynodd y byddai yn symud yn ôl.

Erbyn hyn, roedd ei thad wedi priodi â Sarah, felly aeth i fyw at ei ffrind Mary Jane yn Perthi Teg.

Drefach Felindre