Ym mis Gorffennaf, 2015, roeddem yn ffodus i ennill £1000 a tharian yng Nghystadleuaeth Menter Ysgolion y Treftadaeth Gymreig am ein prosiect ar William Morgan, Mary Jones a thwf y Beibl Cymraeg yng Nghymru.
Derbyniom wahoddiad i fynd i'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i dderbyn ein gwobr. Arhosom yn nerfus yn y neuadd i'r beirniad alw ein henw ac roeddem wedi gwirioni i glywed ein bod wedi ennill y darian, arian a'r wobr am ferched mewn hanes. Ar ôl y seremoni, aethom i draeth Porthcawl am hufen iâ i ddathlu ein llwyddiant!
Dydd Mawrth, 15fed o Fedi, gwahoddwyd Mrs James, Mrs Brice, Mrs Williams a chwech disgybl o flwyddyn 6 i ddangos ein prosiect llwyddiannus mewn dathliad 25ain ers sefydlu Menter y Dreftadaeth Gymreig yn y Senedd yng Nghaerdydd. Cawsom ein tywys o amgylch y Senedd a chael brechdanau a sudd cyn y seremoni am 6yh.
Gan fod Mrs James wedi bod yn cystadlu yn y gystadleuaeth dros 20 mlynedd, cafodd wahoddiad i siarad am ei phrofiadau ac am y cyfoeth o wybodaeth mae'r disgyblion wedi eu cael yn ymchwilio i wahanol gyfnodau yn hanes Gymru.
Cliciwch ar y fideo isod i glywed araith Mrs James, fideo o'n cyfweliad radio gyda Mrs Catrin Stevens, Cadeirydd Menter Ysgolion y Treftadaeth Gymreig a sioe sleidiau o'n hymweliad i'r Senedd.
Mrs James yn areithio am ddylanwad prosiectau
y Dreftadaeth Gymreig.
Y disgyblion yn cyfweld Mrs Catrin Stevens, Cadeirydd Menter Ysgolion y Treftadaeth Gymreig.
Sioe sleidiau o'n hymweliad i'r Senedd.
To read in English