Cartref  Pasg Diolch- garwch  Dathlu 200 Nadolig Gemau
Ysgol Penboyr
Dathliadau yn yr Eglwys
Ar ddydd Gwener 14eg o Hydref, 2011, roeddwn i a
dosbarth 4 wedi mynd i Lundain.  Roedd yn rhaid i
ni gychwyn am 4.45 o’r gloch y bore. 

Yn Llundain roeddwn i wedi mynd i Abaty Westminster oherwydd roeddwn i wedi ennill cystadleuaeth creu baner 200 mlwyddiant Tyddewi. 

Roedd rhaid i bawb oedd wedi ennill y gystadleuaeth
fynd i gael ymarfer.  Roedd mam a Mrs. James, y
Pennaeth wedi dod gyda fi.  Ar ôl ymarfer roedd
rhaid i fi aros gyda phawb arall oedd wedi ennill, am
dros awr!.  Roedd merch o’r enw Abbie yn helpu fi i
gario’r faner, roedd hi yn neis.  Wedyn yn y cwrdd
roeddwn yn eistedd ar bwys Abbie.  Roedd côr yn
canu ac roedden nhw’n ffantastig. Ar ôl y cwrdd
roeddwn yn aros wrth fy hunan bach ac yn aros i
Mrs. James ddod i nôl fi. 

Wedyn fe aethon ni i McDonalds i gael bwyd, roedd
e’n flasus iawn.  Ar ôl McDonalds, fe aethon ni i
Sealife.  Roedd Sealife yn ffantastig, rwy’n credu
roedd na bob anifail o’r môr yno.  Roedd hyd yn oed
siarcod i gael.  Ar ôl Sealife roeddwn wedi cael taith
o amgylch Llundain.  Wedyn roeddwn yn barod i fynd
adref.  Roeddwn wedi stopio i gael bwyd yn y
gwasanaethau, roeddwn i wedi cael Burger King. 
Wedyn roedd pawb wedi blino ac yn barod i gael
taith hir adre.


Roedd y diwrnod yn brofiad gwych.


Dyma fi yn
ymarfer yn yr
Abaty
Dyma fi a
Mrs James
Tu allan yr Abaty
^ nol
Adroddiad Cerian