Cartref  Pasg Diolch- garwch  Dathlu 200  Nadolig Gemau
Ysgol Penboyr
Dathliadau yn yr Eglwys
.







Tymor y Nadolig yw'r adeg pan mae Cristnogion yn dathlu
genedigaeth Iesu Grist, mab Duw.


Adfent
yw blwyddyn newydd yr Eglwys Gristnogol.
Dyma'r adeg pan mae Cristnogion yn paratoi ar
gyfer dathlu genedigaeth Iesu Grist.


Mae'r Adfent yn dechrau ar Tachwedd 30ain hyd
at Noswyl Nadolig. Adeg yr Adfent, rydyn ni yn
dewis ac yn lapio anrhegion, canu carolau, perfformio
stori'r geni, ysgrifennu a phostio cardiau ac addurno
tai.


Bob blwyddyn rydym ni'n dathlu Nadolig ar Ragfyr
25ain, diwrnod penblwydd Iesu. Rydyn ni yn dathlu
wrth fwyta cinio traddodiadol Nadolig gyda ein
teuluoedd a'n ffrindiau.


Rydyn ni'n dathlu'r Epiffani deuddeg diwrnod ar
ol y Nadolig, pan ddaeth y tri gwr doeth i weld y
baban Iesu ym Methlehem.
Cliciwch ar y
botwm i weld mwy
 Dathlu Nadolig yn Ysgol Penboyr
^
^