Cartref  Pasg Diolch- garwch  Dathlu 200  Nadolig Gemau
Ysgol Penboyr
Dathliadau yn yr Eglwys
^ nol
Beth yw Cristingl?
Mae dathlu Cristingl yn ffordd o rannu neges y ffydd Gristnogol.
Golyga Cristingl 'Goleuni Crist’ ac mae’n symbol o’r ffydd Gristnogol.
Blynyddoedd maith yn ôl, gofynwyd i blant fynd â anrheg i’w osod wrth y crud yn yr Eglwys. Doedd gan un teulu ddim arian i brynu anrhegion ond roedden nhw’n benderfynol o fynd â rhywbeth.

Daeth hyd i oren y teimlent a fyddai’n addas, ond pan welsant
ei fod wedi llwydo ychydig ar y top, roedden nhw’n siomedig. Fodd
bynnag, fe wnaethant benderfynu tynnu’r darn wedi llwydo a gosod
cannwyll ar ei ben i’w droi’n llusern. Gan feddwl ei fod yn edrych
braidd yn ddiflas, tynnodd un o’r merched ddarn o ruban coch o’i
gwallt a’i glymu o amgylch yr oren. Cawsant ychydig o drafferth ei
osod yn ei le, felly, fe wnaethant ei roi yn sownd gyda pedwar ffon
bach a gosod ychydig o rhesin ar eu blaenau.

Aethant â’r llusern i’r eglwys gan ofni beth fyddai ymateb y plant eraill. Fodd bynnag, roedd yr offeiriad yn hynod o falch o’u hanrheg a dywedodd wrth y gynulleidfa mor arbennig ydoedd oherwydd y rhesymau canlynol:
Mae’r oren yn grwn fel y byd.

Mae’r gannwyll yn dal a syth ac yn rhoi goleuni yn y tywyllwch fel cariad Duw.

Mae’r ruban yn mynd o amgylch y ‘byd’ ac yn symbol o waed Crist pan fu
farw drosom ar y groes.

Mae’r pedwar ffon yn pwyntio i gyfeiriadau gwahanol ac yn cynrychioli
Gogledd, De, Dwyrain a’r Gorllewin- ac hefyd yn cynrychioli y pedwar tymor.

Mae’r ffrwythau a’r cnau (ac ambell dro melysion!) yn cynrychioli
ffrwythau’r ddaear, wedi eu maethu gan yr haul a’r glaw.

Sut wnaethom ni ddathlu Cristingl?